Company: The Open University
Location: Cardiff
Posted: May 5th, 2026
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byrhwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd chi i wefan YouTube).
Mae Dirprwy Gyfarwyddwr TAR (Cymru) yn darparu arweinyddiaeth academaidd a gweithredol uwch ar gyfer y rhaglen TAR, gan weithio mewn partneriaeth agos Chyfarwyddwr y rhaglen TAR. Mae'r rl yn arddel cyfrifoldeb dirprwyedig am arweinyddiaeth strategol, cynllunio'r cwricwlwm, ansawdd academaidd, trefniadau partneriaeth, a chydymffurfiaeth reoliadol ar draws rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon gymhleth, ddwyieithog ac aml-bartner.
Mae hon yn swydd arweinyddiaeth academaidd uwch sy'n cyfateb i lefel Uwch-ddarlithydd (Addysgu ac Ysgolheictod) ar lefel AC4, gan gyfuno arweinyddiaeth y rhaglen ag addysgu, ymchwil ac ysgolheictod, arloesedd cwricwlaidd, ac ymgysylltu academaidd allanol. Mae deiliad y swydd yn sicrhau cydlyniant, ansawdd a gwelliant parhaus wrth ddarparu'r rhaglen, yn unol 'r Cwricwlwm i Gymru, gofynion SAC, trefniadau llywodraethu academaidd Y Brifysgol Agored, ynghyd rheoleiddwyr allanol, gan gynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn.
Mae'r Dirprwy Gyfarwyddwr yn cyfrannu at ddatblygiad strategol Addysg Gychwynnol i Athrawon yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac yn chwarae rhan weithredol mewn trafodaethau cenedlaethol ac ar draws y sector ynghylch addysg athrawon, polisi a datblygu'r gweithlu.
Mae'r TAR yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig llwybr hyblyg i'r proffesiwn addysgu, sydd o bwys cenedlaethol. Mae'n cyfuno dysgu ar-lein, addysgu byw a lleoliadau mewn ysgolion, gan arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Caiff y rhaglen ei darparu ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru drwy bartneriaeth helaeth o ysgolion, mentoriaid a staff prifysgolion, mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae'n chwarae rhan ganolog wrth ehangu mynediad i'r proffesiwn, cryfhau amrywiaeth y gweithlu, a chefnogi blaenoriaethau cenedlaethol, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg a recriwtio ar gyfer pynciau lle mae prinder.
Meini prawf hanfodol:
Meini prawf dymunol:
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas 'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rl, cysylltwch ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.
Noder y gallwch wneud cais yn y Gymraeg ac na fyddai cais Cymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i gyfweliad hefyd yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn y cyfweliad.
Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr pholisau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld 'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).
Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.
Lleoliad Gweithio: Disgwylir y gellir sefydlu patrwm gweithio hybrid ar gyfer y rl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac o'r swyddfa. Fodd bynnag, gan fod y rl hon wedi'i lleoli yn l y contract yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd presenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl y bydd hyn tua deuddydd y mis. Cefnogir gweithio llawnamser yn ein safle yng Nghaerdydd hefyd os byddai hynny'n well gan yr ymgeisydd. Ni chaiff treuliau sy'n gysylltiedig theithio i'n safle yng Nghaerdydd eu had-dalu.
Disgwylir i ddeiliad y swydd hefyd deithio ledled Cymru i fynd i gyfarfodydd partneriaeth, cyfarfodydd llywodraethu a chyfarfodydd rhanddeiliaid.
Mae dyddiadau cyfweliadau i'w cadarnhau.
Er y bydd y rhan fwyaf o'r rolau yn parhau ar agor tan y dyddiad cau a hysbysebir, gall ceisiadau gael eu hadolygu yn barhaus. Mewn rhai achosion, gall swyddi gwag gau yn gynharach pe bai nifer digonol o geisiadau addas wedi dod i law ac mae'r effeithiau ar gydraddoldeb wedi cael eu hystyried yn briodol. Bydd yr holl rolau yn parhau i gael eu hysbysebu am o leiaf un wythnos cyn iddynt gael eu cau yn gynnar.
Os ydych wedi dechrau cais neu yn y broses o wneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu ni. Rydym yn ymrwymedig i ddeall amgylchiadau unigol ac yn gallu cynnig cymorth ychwanegol lle y bo angen, gan gynnwys addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd nodweddion gwarchodedig.
I wneud cais am y rl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:
Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.