Company: GatenbySanderson
Location: Wales
Posted: May 8th, 2026
Bannau Brycheiniog National Park Authority
Salary: £86,404 - £94,830 y flwyddyn gyda’r cyflog i ddechrau’n dibynnu ar eich cymwysterau a’ch profiad / £86,404 - £94,830 per annum with the starting salary depending on your qualifications and experience
Mae Bannau Brycheiniog yn dirwedd fyw sy'n cynnal bywyd gwyllt, diwylliant a chymunedau, ac yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Rydym yn chwilio am berson arbennig i arwain yr Awdurdod ac i wneud yn siŵr y bydd ein Parc Cenedlaethol yn dal i fod yn lle arbennig i genedlaethau'r dyfodol.
Rydym yn chwilio am arweinydd sy'n gofalu'n fawr am y lle hwn ac a all ein helpu i droi ein huchelgeisiau yn newid cadarnhaol go iawn i'r dirwedd a'r bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn treulio amser yma. Mae hwn yn foment gyffrous i'r Awdurdod, ond mae hefyd yn un heriol, a bydd arweinyddiaeth greadigol a meddylgar yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig, creadigol ac egnïol i arwain ein tîm wrth iddo gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac i bawb sydd yn byw, gweithio ac sydd yn ymweld â’r Parc. Er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau, mae angen i ni weithio mewn partneriaeth agos â llawer o bobl eraill sy''n byw, gweithio, ymweld a gofalu am y Parc Cenedlaethol ac mae hyn yn golygu y bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr cymhellol, sy''n gallu cyfuno pobl o amgylch gweledigaeth a rennir ac adeiladu clymbleidiau gwych o ddiddordeb. Bydd angen i chi hefyd wneud hynny o dan amodau ariannol heriol ac felly bydd y gallu i reoli adnoddau'n effeithiol, sicrhau yr effaith mwyaf posibl a bod yn greadigol am ffyrdd newydd o ariannu a chyflawni. Mae newid yn mynd i fod yn nodwedd o'ch amser yn y swydd, yn fewnol ac yn allanol nac felly mae angen i chi allu dod â phobl gyda chi a gwneud yn siŵr bod manteision newid yn cael eu deall a'u gwireddu.
Yn anad dim, byddwch yn poeni am y lle hwn a'i bobl ac yn barod i wrando a dysgu, I werthfawroi pwysigrwydd ei ddiwylliant a'i dreftadaeth.
Os yw ein cenhadaeth a’n gwerthoedd yn taro deuddeg gyda chi, rydym yn eich annog i lawrlwytho’r pecyn ymgeisydd.
I gael sgwrs gyfrinachol, cysylltwch â’n hymgynghorwyr ymgynghori yn GatenbySanderson:
Dyddiad cau ceisiadau: 9am, Dydd Llun11 Mai 2026
I ymgeisio ac i gael gwybodaeth bellach, ymwelwch â: http://www.gatenbysanderson.com/job/GSe130230
#J-18808-Ljbffr