Cynorthwyydd Addysgu

Company: Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd

Location: Cardiff

Posted: May 16th, 2026

DescriptionEmployerLocation

Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd

Heol Glan y Nant

Yr Eglwys Newydd

Caerdydd

CF14 1AP

Nifer y Disgyblion: 470 (Oedrannau 3 - 11) (2 swydd)

Swyddi Cynorthwywyr Dysgu x 2

Cyf Post: ED50011971 / ED50011970

Gradd 4, scp 6 - 11 (£25, 989 - £28, 142 FTE/ PRO RATA)

Dros dro am flwyddyn oherwydd y gyllideb

30 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn

I gychwyn: Medi 2026

Rydym am benodi person brwdfrydig a hyblyg, sy’n gallu cyfathrebu’n dda yn y Gymraeg, i gydweitho â thîm o staff gweithgar ac ymroddgar yn yr ysgol lwyddiannus yma yng Ngogledd Caerdydd.

Wrth ymgeisio, dylid nodi diddordebau a chymwysterau cwricwlaidd penodol.

Am fanylion pellach am y swydd, dylid ffonio’r Pennaeth Mr. Gwyndaf Jones

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).

Mae’r swyddi hyn yn amodol ar Wiriadau Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Bydd angen caniatâd gan y Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, ar raddfa heb fod yn is nag OM2, neu gan y Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion.

Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm “Ymgeisio Nawr”.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi eu cwblhau i’r ysgol yn uniongyrchol erbyn y dyddiad cau.

Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm “Ymgeisio Nawr”. Rydym yn deall y gallech ddefnyddio DA (deallusrwydd artiffisial) ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, Mai 19fed (12pm)

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys:

•y rhai sy’n 25 oed ac iau;

• y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;

• y rhai o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a LGBT+ Caerdydd;

• y rhai sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg.

Safeguarding Statement

Safeguarding and Child Protection are key priorities for our School and Council. We aim to support children and vulnerable adults to ensure they are as safe as they can possibly be. Our services and schools are committed to ensuring the safety and protection of all children and vulnerable adults, and will take action to safeguard their well-being, and acknowledge that children and vulnerable adults have a right to protection. This is supported in the general ethos of the Council and all schools.

As an equal opportunities employer, we value diversity. Therefore, although not a requirement for application, we welcome and encourage applications from underrepresented individuals including those:

• aged under 25;

• not in employment, education or training;

• from our local communities including in particular disabled individuals, carers and those from the Cardiff BAME and LGBT+ communities;

• ability to communicate fluently in Welsh.

Apply Now